Telerau ac amodau - Ymweld â rhywun yn y carchar

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei wella ac efallai y byddwch yn sylwi ar newidiadau – cysylltwch â ni (dolen yn agor mewn ffenestr bori newydd) os oes arnoch angen cymorth.

Pwysig

Rydym wedi diweddaru ein polisi preifatrwydd. Mae'n esbonio sut rydym yn defnyddio'ch data. Gweld y polisi preifatrwydd.

Telerau ac amodau

Trwy ddefnyddio'r gwasanaeth cais digidol ymweliad carchar hwn rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn. Darllenwch nhw'n ofalus.

Cyffredinol

Mae’r telerau ac amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau a’ch atebolrwydd dan y gyfraith. Maent yn llywodraethu’r defnydd a wnewch, a’r perthynas gyda’r gwasanaeth digidol i wneud cais i ymweld â rhywun yn y carchar. Nid ydynt yn berthnasol wasanaethau eraill a ddarperir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder (Gwasanaeth Carchardai EM), neu i unrhyw adran neu wasanaeth arall sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth hwn.

Efallai y byddwn yn diweddaru’r telerau ac amodau hyn o dro i dro. Gall hyn ddigwydd os oes newid yn y gyfraith neu i’r ffordd y mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio. Os oes newid, gofynnir i chi gytuno i’r telerau ac amodau newydd y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi, fel y gallwch barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Os nad ydych yn cytuno i’r telerau ac amodau na’r polisi preifatrwydd a nodir yn y ddogfen hon, ni ddylech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Cyfraith berthnasol

Bydd y defnydd a wnewch o’r gwasanaeth hwn, ac unrhyw anghydfod sy’n codi yn sgil hynny, yn cael ei lywodraethu gan, a’i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990
  • Deddf Diogelu Data 1998
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mewn ffordd gyfrifol

Mae peryglon ynghlwm wrth ddefnyddio cyfrifiadur a rennir, megis mewn caffi rhyngrwyd, i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw bod yn ymwybodol o’r peryglon hyn ac osgoi defnyddio unrhyw gyfrifiadur allai adael eich gwybodaeth bersonol ar gael i eraill gael mynediad ati. Chi sy’n gyfrifol os byddwch yn dewis i adael cyfrifiadur heb ei ddiogelu pan fyddwch yn y broses o wneud cais i ymweld â rhywun yn y carchar.

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi’r gwasanaeth hwn pa bryd bynnag y byddwn yn newid neu’n diweddaru unrhyw beth. Fodd bynnag, rhaid i chi gymryd camau eich hunan i ofalu a sicrhau nad yw’r ffordd yr ydych yn cael mynediad at y gwasanaeth hwn yn eich gwneud yn agored i beryglon firysau, codau cyfrifiaduron maleisus neu ffurfiau eraill o ymyrraeth allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol eich hun.

Ni ddylech gamddefnyddio ein gwasanaeth drwy gyflwyno firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwasanaeth, y system lle cedwir ein gwasanaeth nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa data sy’n gysylltiedig â’n gwasanaeth. Ni ddylech ymosod ar ein safle drwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth.

Ymwadiad

Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod a achosir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, boed hynny oherwydd camwedd, tor-cytundeb neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys colli incwm neu refeniw, busnes, elw neu gontractau, arbedion a ragwelir, data, ewyllys da, eiddo diriaethol neu amser a wastraffwyd mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwn neu unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arno. Ni fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golled neu ddifrod i'ch eiddo diriaethol nac unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol nad ydynt wedi'u heithrio gan unrhyw un o'r categorïau a nodir uchod.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod, na'n hatebolrwydd am gamliwio twyllodrus neu gamliwio ynghylch mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na'i gyfyngu dan gyfraith berthnasol.

Cysylltwch â ni

Weinyddiaeth Gyfiawnderh
Gwasanaethau Digidol
11.51 102 Petty France
Llundain
SW1H 9AJ